Y Syrcas – Helpwch i wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru
Mae 76% o’r cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi gwaharddiad ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcas*
*Arolwg barn Ipos MORI ar ran yr RSPCA, Medi 2006.
Mae gan Gymru y cyfle i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau… ond mae angen eich cymorth arnom.
Mae barn pobl wedi newid. Nid yw’r cyhoedd yng Nghymru bellach yn ystyried defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcas yn fath priodol o adloniant yn y byd modern. Mae pobl hefyd yn dechrau sylweddoli bod llawer o bryderon lles yn gysylltiedig ag anifeiliaid gwyllt yn gorfod perfformio a theithio ledled y wlad er diddanwch i ni.
Ar hyn o bryd nid oes syrcas sy’n defnyddio anifeiliaid gwyllt wedi’u lleoli yng Nghymru, ond mae syrcasau sy’n ymweld o Loegr, Iwerddon a thir mawr Ewrop yn dal yn gallu perfformio yma. Mae gofyn inni hefyd sicrhau na fyddai syrcas sy’n defnyddio anifeiliaid gwyllt yn gallu sefydlu yma yng Nghymru ar ryw adeg yn y dyfodol.
Mae gofyn inni ddangos i Lywodraeth Cynulliad Cymru bod cefnogaeth gyhoeddus gref ar gyfer gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. I wneud hyn gallwch:
- Ysgrifennwch at olygydd eich papur lleol yn dweud wrthynt pam rydych yn cefnogi gwaharddiad.
- Cefnogwch syrcasau nad ydynt yn defnyddio anifeiliaid - mae’r syrcasau uchel eu clod hyn yn pwysleisio sgiliau perfformio pobl.
- Mae ymwybyddiaeth yn allweddol: siaradwch â’ch ffrindiau, teulu a chydweithwyr ynghylch y problemau sydd gan anifeiliaid gwyllt mewn syrcas.